Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Mehefin 2022
Amser:
13.30 -
14.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12866
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS (yn lle Peter Fox AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd James Evans AS ar ei ran.
2 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
2.1 Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
3.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
3.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefn: Cysylltiadau rhyngseneddol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweithdrefn.
3.4 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gorchymyn Adolygu Harbwr Abertawe (Cau Doc Tywysog Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am 19 munud oherwydd materion technegol.
3.5 Gohebiaeth gan y Llywydd: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd.
3.6 Gohebiaeth â'r Llywydd a'r Gwir Anrhydeddus Syr Oliver Heald QC AS: cyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Llywydd ac Arweinydd a Chyd-gadeirydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE.
3.7 Gohebiaeth gan Bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi: Cytundeb Rhyngwladol - Confensiwn ar y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cymhorthion Mordwyaeth Forol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi.
3.8 Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwaharddiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfer plastigau untro
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Gweinidog Newid Hinsawdd.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein, yn ogystal â’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol a'r ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chytunodd i drafod ei adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
6 Trafod cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
· Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig (“Confensiwn Istanbwl”)
· Y cytundeb rhwng y DU a Ffrainc ar gydweithio ar faterion sy’n gysylltiedig â diogelwch morol a diogelwch porthladdoedd, ac yn benodol mewn perthynas â llongau sy’n cludo teithwyr yn y Sianel (“Cytuniad Diogelwch Morwrol”).
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau hyn yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
7 Cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Trafododd y Pwyllgor y papur gan Dr Gregory Davies.
8 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor faterion sy’n gysylltiedig â'i flaenraglen waith.